R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
1. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o ran cyflawni'r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0321(ESK)
2. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant? OAQ(4)0315(ESK)
3. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ymuno â'r gweithlu? OAQ(4)0312(ESK)
4. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu ieithoedd Ewropeaidd modern yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0317(ESK)
5. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r trafodaethau a gynhaliwyd gyda chyd-Weinidogion i ennyn cefnogaeth traws-bortffolio i bolisïau addysg? OAQ(4)0316(ESK)
6. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Cynllun Bwyd Ysgol a ddaeth i'r casgliad bod darpariaeth dda o ran bwyd mewn ysgolion nid yn unig yn arwain at blant iachach, ond at well cyrhaeddiad hefyd? OAQ(4)0324(ESK)
7. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn amlinellu'r camau sy'n cael eu cymryd i greu hyfforddiant a phrentisiaethau effeithiol ac ymarferol mewn sgiliau adeiladu? OAQ(4)0310(ESK) TYNNWYD YN ÔL
8. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad consortia addysg? OAQ(4)0320(ESK) TYNNWYD YN ÔL
9. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei weledigaeth ar gyfer darparu ieithoedd Ewropeaidd modern yng Nghymru yn y dyfodol? OAQ(4)0318(ESK)
10. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella lefelau llythrennedd disgyblion yng Nghymru? OAQ(4)0307(ESK)
11. Elin Jones (Ceredigion): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch ynglŷn ag ariannu prifysgolion? OAQ(4)0319(ESK)
12. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw asesiad y mae wedi ei wneud o effeithiolrwydd y grant amddifadedd disgyblion? OAQ(4)0309(ESK)
13. Simon Thomas (Mid and West Wales): Will the Minister make a statement on the action points in ‘Welsh Medium Education Strategy: Annual Report 2012-13’? OAQ(4)0323(ESK)W
13. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau gweithredu yn ‘Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg: Adroddiad blynyddol 2012-13’? OAQ(4)0323(ESK)W
14. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella cyfleoedd sgiliau yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0313(ESK)
15. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganlyniadau’r profion Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol eleni? OAQ(4)0311(ESK)W
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
1. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa welliannau y mae'r Gweinidog wedi eu cynllunio ar gyfer y seilwaith trafnidiaeth yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0300(EST)
2. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa asesiad effaith a gynhaliodd Llywodraeth Cymru cyn lleihau'r cymorth ariannol ar gyfer y Grant Gweithredu Gwasanaethau Bysiau? OAQ(4)0307(EST) Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig
3. Elin Jones (Ceredigion): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo teithio ar y rheilffyrdd yng nghanolbarth Cymru? OAQ(4)0310(EST)
4. Elin Jones (Ceredigion): Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer marchnata twristiaeth yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0309(EST)
5. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith Llywodraeth Cymru i annog twf economaidd? OAQ(4)0312(EST)W
6. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am welliannau i gefnffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0306(EST)
7. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i ddatblygu strategaeth dwristiaeth Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0305(EST)
8. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglenni Llywodraeth Cymru i gynorthwyo busnesau bach a chanolig? OAQ(4)0311(EST) TYNNWYD YN ÔL
9. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Beth yw blaenoriaethau'r Gweinidog ar gyfer busnesau yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0308(EST)
10. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fanteision twristiaeth ddiwylliannol? OAQ(4)0304(EST)
11. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglen waith Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy? OAQ(4)0313(EST)W
12. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynorthwyo busnesau bach a chanolig yng Nghymru? OAQ(4)0303(EST)
13. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei chynlluniau i helpu’r sector twristiaeth yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0301(EST)
14. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella diogelwch ar ffyrdd Cymru? OAQ(4)0298(EST)
15. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiwydiant twristiaeth Cymru? OAQ(4)0299(EST)